|
TEITL |
Rheoliadau Cyd-drefniadaeth y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Safonau Marchnata a Chynhyrchion Organig) (Darpariaethau Trosiannol) (Diwygio) 2025
|
|
DYDDIAD |
10 Ionawr 2025 |
|
GAN |
Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig |
Bydd Aelodau o'r Senedd am gael gwybod rwyf yn rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig o ran Cymru.
Gofynnwyd am gytundeb gan y Farwnes Hayman i wneud Offeryn Statudol (OS) o'r enw Rheoliadau Cyd-drefniadaeth y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Safonau Marchnata a Chynhyrchion Organig) (Darpariaethau Trosiannol) (Diwygio) 2025 i fod yn gymwys o ran Prydain Fawr.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud yr OS uchod drwy arfer y pwerau a roddir gan erthygl 89(a) o Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 ac adran 38(5) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill.
Mae'r OS yn diwygio'r Rheoliadau isod:
Daeth y rheoliadau hyn i ben ar 31 Ionawr 2025, er mwyn caniatáu i'r darpariaethau trosiannol presennol ar gyfer Safonau Marchnata a Chynhyrchion Organig gael eu hymestyn hyd at 1 Chwefror 2027.
Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU ar 9 Ionawr 2025 a byddant yn dod i rym ar 1 Chwefror 2025.